Colli'r Plot
Teipio rhyddiaith, sgwennu barddoniaeth
Croeso i ail bennod Colli'r Plot – sef podlediad gyda'r sgwennwyr – Manon Steffan Ros, Siân Northey, Bethan Gwanas a Dafydd Llewelyn.
Yn y bennod hon 'da ni'n trafod strwythur a sut ma' rywun yn mynd ati i 'sgwennu eu stwff.
Buom ni'n trafod plot a chymeriadau, a pha 'run sydd bwysicaf, ynghyd a sut 'da ni'n mynd ati i greu'n cymeriadau, gyda Manon yn cynnig sgŵp rhyfeddol i ni ac yn cyfaddef bod gwerthu pobl yn parhau i ddigwydd ym marchnad Machynlleth hyd heddiw.
Fuodd Siân yn trio egluro'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng rhyddiaith a barddoniaeth tra bod Gwanas dal i ddyfynnu pobl glyfar gan gyffesu ei bod efo soft-spot am Hemingway.